Skip to product information
1 of 1

Various Artists - Senglau'r Selar

Various Artists - Senglau'r Selar

Regular price £9.99
Regular price Sale price £9.99
Sale Sold out
Tax included. Shipping calculated at checkout.
  • Product ID : Rasal CD038
  • Label: Rasal
  • Genre: Pop/Rock
  • Format: Album
  • Released: 2016

Casgliad Senglau’r Selar

Datblygodd syniad Clwb Senglau’r Selar wrth i ni baratoi i ddathlu pen‑blwydd Y Selar yn 10 oed yn Nhachwedd 2014. A’r cylchgrawn wedi rhoi sylw cyson i artistiaid newydd erioed, pa ffordd well i nodi’r garreg filltir na thrwy lansio cynllun i ryddhau senglau cyntaf yr artistiaid ifanc mwyaf cyffrous roedden ni’n dod ar eu traws.

Ers hynny mae’r Clwb Senglau wedi rhyddhau 10 o ganeuon gan grwpiau amrywiol iawn, gan adlewyrchu amrywiaeth genres y sin Gymraeg ar hyn o bryd. Mae mor anodd, ond eto mor bwysig, i grwpiau ifanc gael y cyfle cyntaf yna i fynd i stiwdio broffesiynol, a recordio trac i safon uchel. Rydan ni’n falch iawn bod Clwb Senglau’r Selar wedi gallu cynnig nid yn unig y cyfle yna i fynd i stiwdio, ond i’r rhan fwyaf o’r bandiau, y cyfle i recordio eu cynnyrch cyntaf yn stiwdio eiconig Sain yn Llandwrog.

Mae’r senglau i gyd wedi cael ymateb da, ac mae’n destun balchder gweld bod nifer o’r bandiau wedi mynd ymlaen i recordio a rhyddhau mwy o gynnyrch wedi hynny. Gobeithio bod y cynllun wedi helpu rhoi’r hwb bach cyntaf iddyn nhw.

Wrth gwrs, yn ddigidol yn unig mae’r traciau wedi eu rhyddhau hyd yma, felly roedd rhaid casglu’r traciau i gyd ynghyd ar un casgliad CD i ddathlu llwyddiant Senglau’r Selar – mwynhewch.

Track Listing

  1.   C-C-Cariad! - Estrons
  2.   Tyrd yn Ôl - Y Trŵbz
  3.   Aberystwyth yn y Glaw - Ysgol Sul
  4.   Mwg Bore Drwg - Henebion
  5.   Neb yn Aros - Terfysg
  6.   Meddwl ar Goll - Patrobas
  7.   Resbiradaeth - Cpt Smith
  8.   Terfyn - Y Galw
  9.   Llwybrau - Raffdam
  10.   Neb yn Cofio - Argrph
  11.   Coleg Bywyd - Magi Tudur
View full details